
DERBYN DISGYBLION
Dyddiad Cau 23:59 ddydd Sul 20 Rhagfyr 2020.
Bydd rhieni'n cael gwybod am y penderfyniad ynglyn a derbyn disgyblion drwy e-bost ar 01 Mawrth 2021. Gwnewch yn siŵr fod y cyfrif e-bost hwn ar gael i chi ar y dyddiad hwn.
Ni fydd yr Awdurdod Lleol yn gallu trafod lleoedd sydd ar gael na chanlyniad posibl unrhyw gais.
Dylai ymgeiswyr fod yn ymwybodol mai'r cyfeiriad cartref sy'n dynodi dalgylch yr ysgol uwchradd yn hytrach na pha ysgol gynradd yr oedd eu plentyn yn ei mynychu.
Mae Ysgol Uwchradd Caergybi yn ysgol groesawgar a chyfeillgar. Rydym yn ymfalchïo yn y ffaith ein bod yn gynhwysol, yn gefnogol i anghenion unigol ac yn cyfathrebu'n effeithiol â'n rhieni.
Os oes gennych ddiddordeb trefnu ymweliad, cysylltwch â ni drwy e-bost yn yucoffice@ynysmon.gov.uk neu ffoniwch ni (01407)762219.
I gael rhagor o wybodaeth dilynwch y ddolen hon i'n
NOSON AGORED TACHWEDD 24ain 6pm