RHIENI
Beth ydyn ni'n ei gynnig i'n disgyblion?
Mae'n fraint gen i eich croesawu i wefan Ysgol Uwchradd Caergybi.
Yma yn Ysgol Uwchradd Caergybi rydym yn trawsnewid bywydau bobl ifanc yn gyson, a hynny gyda chymorth tîm o staff ymroddedig a brwdfrydig iawn.
Gyda'n gilydd, credwn ym mhwysigrwydd y ffaith fod pob myfyriwr yn cyfrif ac rydym wedi gweithio ar ddatblygu cwricwlwm sy'n datblygu buddiannau ystod eang o allu, sgiliau a thalentau. Ein nod yw ennyn brwdfrydedd ein myfyrwyr drwy addysgu arloesol fel eu bod yn mwynhau dysgu, a'u bod yn cael eu herio'n gyson i gyflawni eu potensial.
Mae dysgu yn weithgaredd cymdeithasol, a dyna pam yr ydym yn addysgu meithrin parch tuag at eu hunain a thuag at eraill, gan annog cydweithio a chydweithredu. Ein nod yw datblygu cenhedlaeth y dyfodol sy'n ymfalchïo ynddynt eu hunain gan ffynnu a defnyddio eu doniau a'u sgiliau er eu budd eu hunain, a'r gymuned y maent yn byw ynddi. Ein nod yw galluogi disgyblion i gymryd cyfrifoldeb yn eu datblygiad personol drwy'r math o ddysgu y maent yn ei brofi, a'r canllawiau rhagorol a gânt gan ein tîm bugeiliol.
Rydym yn cyfathrebu â rhieni a gwarcheidwaid yn rheolaidd ac mae disgyblion yn cael adborth wythnosol ar eu cyflawniad drwy Siartiau Dosbarth. Mae ein Rheolwyr Cynnydd yn cadw llygad cyson ar lithriant posibl neu newid agwedd tuag at ddysgu, ac yn cyfathrebu â'r cartref yn rheolaidd. Ystyrir bod adborth o ansawdd yn hanfodol yn ein dull o sicrhau llwyddiant ac mae ein staff yn mireinio eu harferion yn gyson er mwyn rhoi'r adborth mwyaf perthnasol a defnyddiol i fyfyrwyr i gefnogi hyn.