
Prydau Ysgol am Ddim
Hawlio prydau ysgol am ddim
Os yw eich plentyn yn gymwys i gael prydau ysgol am ddim, mae'n golygu y gall fwynhau prydau blasus ac iach heb y biliau a'r trafferth o wneud pecynnau cinio.
Bydd prydau ysgol yn rhoi gwir awydd i'ch plentyn ddysgu ac yn ei helpu i gynyddu ei egni. Gallai hawlio Prydau Ysgol am Ddim arbed tua £400 y flwyddyn i gyllideb eich teulu ar gyfer pob disgybl ysgol uwchradd a £370 ar gyfer pob disgybl ysgol gynradd!
Gallai hyn dalu eich bil trydan am flwyddyn gyfan!
Efallai y bydd gan eich plentyn hawl i gael prydau ysgol am ddim os oes gennych hawl i gael un o'r canlynol:
-
Cymhorthdal Incwm
-
Lwfans Ceisio Gwaith ar Sail Incwm
-
Cymorth o dan Adran VI o Ddeddf Mewnfudo a Lloches 1999
-
Lwfans Cyflogaeth a Chymorth sy'n gysylltiedig ag incwm
-
Credyd Treth Plant ar yr amod nad oes hawl i gael Credyd Treth Gwaith ac nad yw incwm blynyddol yn fwy na £16,190. (Cyllid a Thollau EM sy'n gyfrifol am asesu lefel yr incwm blynyddol.)
-
Elfen gwarantu Credyd Pensiwn y Wladwriaeth
-
Credyd Treth Gwaith yn 'parhau' - y taliad y gall rhywun ei gael am bedair wythnos arall ar ôl iddynt roi'r gorau i gymhwyso ar gyfer Credyd Treth Gwaith
-
Credyd Cynhwysol gydag enillion cymryd cartref o'r gwaith o ddim mwy na £7400 y flwyddyn (fel y'i cyfrifir at ddibenion Credyd Cynhwysol)
Sut y gellir hawlio prydau ysgol am ddim?
Gall teuluoedd sy'n dymuno hawlio'r lwfans wneud hynny mewn nifer o ffyrdd.
Gallwch argraffu'r ffurflen isod, ei llenwi a'i dychwelyd i ysgol eich plentyn neu'n uniongyrchol i'r Gwasanaeth Addysg - gweler y manylion cyswllt ar y dde.
Fel arall, gallwch gael ffurflen gais gan yr ysgol y mae eich plentyn/plant yn ei mynychu neu gan Wasanaeth Addysg Cyngor Sir Ynys Môn - gweler y manylion cyswllt ar y dde.
Manylion Cyswllt
Rhif ffôn: 01248 750057 (dewiswch opsiwn 3 yna opsiwn 1).
FFURFLEN GAIS AM BRYDAU YSGOL AM DDIM (PDF a Word)