SWYDDI GWAG

Cyflog: £ 55,338 y flwyddyn
Hyd y Contract: Cyfnod penodol (Wedi'i ariannu'n rhannol gan grant)
Oriau: Llawn Amser
Dyddiad Cau: 07/06/21
Dyddiad Cychwyn: 01/09/21
Rydym yn hysbysebu am ddwy rôl ar wahân fel PENNAETH CYNORTHWYOL CYSWLLT
Rydym yn croesawu ceisiadau mewnol gan staff sy'n ymarferwyr medrus iawn. Rwy’n croesawu ceisiadau yn arbennig gan y rhai sy’n arweinwyr uchelgeisiol sydd â hanes profedig o berfformiad rhagorol a photensial arweinyddiaeth.
Bydd yr ymgeiswyr llwyddiannus a fydd yn ymuno â'n Uwch Dîm Arweinyddiaeth fel Pennaeth Cynorthwyol yn defnyddio eu profiad o fod yn ymarferydd ystafell ddosbarth sy'n perfformio'n dda i ysbrydoli disgyblion a staff. Bydd y person hwn yn rhyngweithio'n naturiol â'n disgyblion ac yn effeithiol wrth fabwysiadu ein hethos cynhwysol.
Er mwyn gwneud y rhestr fer mae'n hanfodol eich bod yn ateb i gofynion hanfodol y swydd yn llawn. Bydd y swydd yn gysylltiedig â meysydd cyfrifoldeb penodol a amlinellir yn glir yn y disgrifiad swydd.
Rydym yn awyddus i benodi unigolyn sydd bob amser yn barod i wynebu her, yn llawn egni, ac sydd yn angerddol ynglyn â bod yn arweinydd effeithiol.
Bydd disgwyl i ymgeiswyr gwblhau ffurflen cais yr Awdurdod Lleol a chynnwys y canlynol yn eu cais:
Datganiad - dim mwy na dwy ochr tudalen A4
-
Beth fedrwch chi cynnig i'r swydd
-
Profiad flaenorol o arweinyddiaeth sy'n berthnasol i gyd-destun y swydd
-
Pam eich bod chi yn fwy cymwys nag unrhyw ymgeisydd arall
-
Sut y byddech yn cyfrannu at ddatblygu'r ysgol yn y meysydd cyfrifoldeb penodol
Y dyddiad cau ar gyfer gwneud cais am y swydd hon yw 12pm 07/06/21. Dylid dychwelyd ceisiadau wedi'u cwblhau drwy e-bost: yucoffice@ynysmon.gov.uk Bydd y rhestr fer yn cael ei llunio ar 08/06/21 a bydd gwybodaeth am y broses gyfweld yn dilyn os y bydd eich cais yn llwyddiannus.
Mae hwn yn gyfle cyffrous yn ein hysgol, ac edrychwn ymlaen at dderbyn eich cais am y rôl bwysig hon