top of page

RHIENI

Gair o groeso gan y Pennaeth

DSC_72041111_edited.png

Mae'n fraint gen i eich croesawu i wefan Ysgol Uwchradd Caergybi. 

Yma yn Ysgol Uwchradd Caergybi rydym yn trawsnewid bywydau bobl ifanc yn gyson, a  hynny gyda chymorth tîm o staff ymroddedig a brwdfrydig iawn.

Gyda'n gilydd, credwn ym mhwysigrwydd y ffaith fod pob myfyriwr yn cyfrif ac rydym wedi gweithio ar ddatblygu cwricwlwm sy'n datblygu buddiannau ystod eang o allu, sgiliau a thalentau. Ein nod yw ennyn brwdfrydedd ein myfyrwyr drwy addysgu arloesol fel eu bod yn mwynhau dysgu, a'u bod yn cael eu herio'n gyson i gyflawni eu potensial. 

Mae dysgu yn weithgaredd cymdeithasol, a dyna pam yr ydym yn addysgu meithrin parch tuag at eu hunain a thuag at eraill, gan annog cydweithio a chydweithredu. Ein nod yw datblygu cenhedlaeth y dyfodol sy'n ymfalchïo ynddynt eu hunain gan ffynnu a defnyddio eu doniau a'u sgiliau er eu budd eu hunain, a'r gymuned y maent yn byw ynddi. Ein nod yw galluogi disgyblion i gymryd cyfrifoldeb yn eu datblygiad personol drwy'r math o ddysgu y maent yn ei brofi, a'r canllawiau rhagorol a gânt gan ein tîm bugeiliol.   

Rydym yn cyfathrebu â rhieni a gwarcheidwaid yn rheolaidd ac mae disgyblion yn cael adborth wythnosol ar eu cyflawniad drwy Siartiau Dosbarth. Mae ein Rheolwyr Cynnydd yn cadw llygad cyson ar lithriant posibl neu newid agwedd tuag at ddysgu, ac yn cyfathrebu â'r cartref yn rheolaidd. Ystyrir bod adborth o ansawdd yn hanfodol yn ein dull o sicrhau llwyddiant ac mae ein staff yn mireinio eu harferion yn gyson er mwyn rhoi'r adborth mwyaf perthnasol a defnyddiol i fyfyrwyr i gefnogi hyn.  

DSC05796.jpg

Rydym yn falch o'r nifer fawr o gyflawniadau academaidd, artistig a chwaraeon gwych disgyblion.  Mae llawer o'n myfyrwyr yn cael eu derbyn i brifysgolion gorau'r wlad neu'n ennill prentisiaethau uchel eu bri yn y DU a thramor ac yn mynd ymlaen i fwynhau gyrfaoedd llwyddiannus ym mhob agwedd ar fywyd.  

Mae ystod eang ein darpariaethau academaidd ac allgyrsiol yn annog ymgysylltu dwyieithog gan ddatblygu ymwybyddiaeth ddiwylliannol a hunaniaeth gymdeithasol ein disgyblion. Er mai ymddygiad da yw’r norm, rydym yn cydnabod ei bod hefyd yn bwysig cael hwyl a chredwn ein bod yn gwneud hyn yn dda. 

  

Os hoffech ragor o wybodaeth neu os hoffech drefnu ymweliad, mae croeso i chi gysylltu â ni yn yr ysgol. Gallwn bob amser roi taith i chi o amgylch yr ysgol a chwrdd â rhai o'n disgyblion er mwyn i chi gael siarad â nhw am eu profiadau.   

Mae addysg wirioneddol lwyddiannus yn bartneriaeth rhwng yr ysgol, y disgyblion, y rhieni a'n cymuned. Os mai ein hysgol ni fydd eich dewis chi, edrychwn ymlaen at weithio'n agos gyda chi.  

 

Adam Rhys Williams 

Pennaeth  

Ein Gweledigaeth

Ein gweledigaeth ar gyfer dysgwyr presennol Caergybi a'r dyfodol

 

Cydweithio fel tîm i gwrdd ag anghenion ein disgyblion yn academaidd ac yn emosiynol.

 

Ymfalchïwn bod yn ysgol gynhwysol lle mae pob disgybl yn cyfrif a lle mae creadigrwydd, unigoliaeth ac arloesedd yn cael eu hannog.

 

Datblygu cenhedlaeth y dyfodol sy'n ymfalchïo yn eu hunain i ffynnu a defnyddio eu doniau au sgiliau er eu lles eu hunain au cymuned a Chymru.

bottom of page