ADDYSG GREFYDDOL
Mae Addysg Grefyddol yn rhan annatod o Gwricwlwm yr Ysgol. Mae'r cyrsiau'n adlewyrchu cymuned leol yr Ysgol.
Yn ôl Deddf Addysg 1988, mae Addysg Grefyddol yn bwnc statudol i bob disgybl yn yr Ysgol. Rhoddir cyfle unigryw i ddysgu am chwe phrif grefydd y byd gyda'r prif bwyslais ar Gristnogaeth. Mae'r Ysgol yn anenwadol ac mae hyn yn cael ei adlewyrchu yn y cyrsiau Addysg Grefyddol. Mae llawer o agweddau diddorol ar bob crefydd yn cael eu hastudio a'u trafod gan gynnwys sylfaenwyr, gwyliau a dathliadau, defodau taith, llyfrau sanctaidd, addoldai ac ati. Mae cyfle hefyd i drafod credoau dyneiddiol, anffyddiol ac agnostig. Nodau'r cyrsiau yw dangos bod crefydd yn ffordd o fyw, ynghyd â hyrwyddo parch a goddefgarwch tuag at eraill. Mae gennych hawl i ofyn i'ch plentyn gael ei symud yn gyfan gwbl neu'n rhannol o addysg grefyddol neu addoliad ar y cyd. Cysylltwch â phennaeth y flwyddyn os ydych am drafod trefniadau amgen ar gyfer addysg grefyddol.